Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Glandyfi at Machynlleth, ceir golwg ar gyrion yr ardal; ond mae y lle yn fwy o faintioli wedi dyfod iddo nag yr ymddengys oddidraw. Saif y pentref ar y gwastad, a'r bryniau llyfnion, moelion, yn ei haner amgylchu, ac yn ei gysgodi rhag gwynt y Gogledd a gwynt y Gorllewin. A thywyna yr haul, os bydd yn haul yn rhywle, ar wyneb yr ardal, haf a gauaf, o fore hyd nos. Cydnabyddir y gymydogaeth fel un o'r rhai prydferthaf, os nad y brydferthaf oll yn Sir Feirionydd. Arweinia y ffordd fawr yr hen turnpike road—rhwng Machynlleth ac Aberdyfi trwy ei chanol, Daw llanw y môr, ar hyd Afon Dyfi, o fewn llai na haner milldir i'r pentref, gan basio heibio i fyny tua Derwenlas, i gyfeiriad Machynlleth.

Heblaw bryniau, a dolydd, a choedwigoedd o gryn amrywiaeth sydd yn prydferthu y lle, mae yn yr ardal hefyd amryw o balasdai. Ar un ochr i'r pentref y mae Talgarth Hall, preswylfod y diweddar C. F. Thruston, Yswain, y gwr a gynygiai David Williams, Castell Deudraeth, i fod yn Aelod Seneddol dros y sir, pan ymgeisiodd y tro cyntaf, yn 1859. Ar yr ochr gyferbyniol i'r pentref y mae Pennal Tower. Perchenogir y palasdy hwn hefyd gan y Thrustons. Yma y treuliodd Proffeswr Henry Rogers, awdwr yr Eclipse of Faith, flynyddoedd olaf ei fywyd, ac yma y bu farw. Yma y dyddiwyd y llyfr olaf a ysgrifenodd—Super-Human Origin of the Bible, Pennal Tower, Rhagfyr, 1873.

Preswyliai teulu Cymreig yn y gymydogaeth, yr hwn a chwareuodd ran nid anenwog yn mhlith yr ardalwyr am, o leiaf, y ddwy ganrif ddiweddaf. Yr olaf, a'r hynotaf o'r teulu, a'r hwn a ddaeth i fwyaf o gyhoeddusrwydd ydoedd Dafydd Rolant. Dyna yr enw wrth ba un yr adnabyddid ef oreu gan ei gyd-oeswyr, am ba reswm y defnyddir y ffurf hwn o'r enw fynychaf yn y Cofiant am dano. Er rhoddi ychydig o syniad i'r darllenydd am dano ar y cychwyn, dechreuir gyda'r hyn y bydd bywgraffiadau yn gyffredin yn terfyno. Ar yr 21ain o