Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gyhoeddus yn y wlad, sef eu bod yn Cock Masters, ymladdwyr ceiliogod. Mae yn dda genyf fod yr hen arfer greulon bron a darfod pan oeddwn i yn ienanc.

Merch i William Davies y gof, oedd fy mam. Hen frawd oedd ef, fel gofaint yn gyffredin, pur sychedig. Er hyny, yr oedd wedi dysgu hel tipyn o'r byd. Yr oedd ganddo ddigon o dir i gadw dwy fuwch, a pony, ac yr oedd wedi buildio pedwar o dai, a gefail gôf, ond ar brydles yr oeddynt. Wedi côf genyf fi y terfynodd y brydles, ac aethant oll yn eiddo y meistr tir. Heblaw hyny, yr oedd ganddo ychydig arian ar dir a môr, y rhai a gafodd ei blant ar ei ol.

Chwi welwch fy mod wedi hanu o dri dosbarth. Mae yn anhawdd cael y tri heb fod yn euog o'r hyn ddywed yr hen ddihareb, sef, 'Tri gôf du sychedig,' 'Tri gambler di-fost,' a 'Thri melinydd gonest.'"

Mae llyfr rhent y Felinganol wedi ei gadw er y flwyddyn 1729. Rowland David oedd y tenant y flwyddyn hono, a chan yr un tenant y telid y rhent am dros ddeng mlynedd ar hugain wedi hyny, a phedair punt y flwyddyn oedd y swm. Ni wyddis yr amser yr ymadawodd y teulu o'r Felinganol, ac ni byddai o unrhyw fantais i roddi ychwaneg o'u hanes yno, pe byddai hanes i'w gael. Modd bynag, yr oedd Hugh Rolant, tad gwrthddrych y Cofiant, yr hwn oedd yn ddilledydd wrth ei gelfyddid, yn mlynyddoedd cyntaf y ganrif bresenol, yn byw yn Llwynteg, wrth ymyl y pentref. Ceir ychwaneg am Llwynteg eto yn mhellach yn mlaen.

Tua'r pryd hwn y ganwyd Dafydd Rolant yn y ty crybwylledig. Yr oedd y ty yr adeg hono yn cael ei ranu yn wahanol ystafelloedd, ac amryw deuluoedd yn byw ynddo, dan yr un tô. Un o'r rhai hyn oedd Dr. Pugh, gwr yn arfer dewiniaeth, "Cunger" (conjurer) proffesedig. Honai ei hun yn feddyg, ac oblegid hyny, meddai ddylanwad mawr ar ddosbarth lliosog o bobl y wlad. Gelwid ef wrth yr enw Dr. Pugh, ond nid oedd