Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eisteddai yr ochr arall i'r tân, "gaf fi gau creia y'ch sgidia chwi, Hugh Rolant?" "Os ydych yn deilwng," oedd yr ateb parod. "P'run bynag," atebai yntau, "mi wnaf fi hyny am y tro."

Nid oedd ymyrwyr, a phobl fyddent yn ei holi, o gwbl yn ei ffafr. Galwai William James, yr Ynys, yn fynych yn y ty, a byddai yno yn aml i dê prydnhawn Sabbothau, oherwydd fod yr Ynys yn mhell. Un pur arw am gwestiyno oedd ef, a rhyw Sul, ar ol tê, gan nesau at Hugh Rolant i'w gwestiyno, gofynai, "Beth sydd genych chwi i'w ddweyd heddyw, F'ewyrth Hugh?" Yr ateb oedd, "Mae'r adnod hono yn d'od i fy meddwl, 'Cadw dy droed allan o dŷ dy gymydog, rhag iddo flino arnat, a'th gasâu."

Yn hen gapel Pennal, yr oedd y sêt fawr, wrth y pulpud, lle yr eisteddai y blaenoriaid, mor gyfyng nad allai pedwar ddim sefyll ynddi heb daro penelin wrth benelin, nac eistedd heb rwbio eu penau gliniau yn eu gilydd. Y mae yr aderyn bach yn y cage yn cael llawer mwy o le nag a gawsai y blaenoriaid yn y sêt fawr hon. Arthur Evan oedd y prif flaenor, a sêt Arthur y gelwid hi. Pan ddewisodd yr eglwys David Rowland yn flaenor, ebe Hugh Rolant wrth ryw un o fechgyn yr ardal, "Glywaist ti fod Deio ni wedi cael myn'd i gratch Arthur.

Eglwyswr, fel y dywedwyd, oedd Hugh Rolant, ac arferai fynychu yr Eglwys gyda graddau o sêl. Yr oedd yn lled ddeallus yn yr Ysgrythyr; cadwai ddosbarth yn yr Ysgol Sul, a phan fyddai y clochydd yn sâl, darllenai y Llithoedd. Ond nid oedd dim a fynai â phobl y capelau. Byddai yn hoff o'i lasiad pan elai oddicartref ac i ffeiriau, er y cadwai yn weddol o fewn terfynau yn ei gartref a chyda'i oruchwylion. Modd bynag, pan ddaeth Dirwest gyntaf i'r wlad, ymunodd yntau gyda'r lliaws i signio yr ardystiad dirwestol, a mawr y syndod ei weled ef yn anad neb gyda'r dirwestwyr. Deuai gwr o'r enw Mr. Pritchard, o Ceniarth, i Bennal i areithio, â chedwid