Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

am dano fel un o'r dynion goreu yn yr holl wledydd. Yn fuan ar ol ei ymadawiad a'r byd, rhydd ef ddesgrifiad naturiol a chywir o hono yn y geiriau canlynol:—

"Yr oedd ganddo natur ddynol lydan—un o'r rhai lletaf yn y wlad. Anfynych y gwelwyd un wedi ei gau o fewn cylch mor fychan yn meddu cydymdeimlad mor eang. Yn nglyn â hyn, neu hwyrach yn cyfodi o hyn, yr oedd ynddo allu arbenig i adnabod cymeriadau, ac i'w desgrifio—to hit them off—fel y dywed y Saeson. Dangosai gymeriadau, ie, eglurai egwyddorion drwy hanesynau yn ddibaid. Yr oedd ganddo stôr o ystoriau, ond nid adroddai yr un o honynt heb fod iddi bwynt ymarferol. Yr oedd trwy fyned allan i weithio i dai y cylch, ynghyd a thrwy y cyfleusdra a gafodd yn ddiweddarach fel masnachwr, wedi casglu gwybodaeth helaeth am y natur ddynol, a medrai wneyd defnydd debeuig o'r wybodaeth hono pan y mynai. Pe buasid wedi casglu ei ddywediadau, o bryd i bryd, cawsem lawer iawn o ddoethineb bywyd cyffredin. Ein cred yw, pe buasai Mr. Rowland wedi cael manteision addysg yn ieuanc, ac wedi cael mwy o hamdden, y gallasai fod wedi cynyrchu desgrifiadau o gymeriadau nid anheilwng I'w gosod ochr yn ochr â'r 'Dreflan.'

"Wele ychydig engreifftiau. Teithiai unwaith yn y tren i Gyfarfod Misol, ac yr oedd yn ei hwyliau goreu. Yr oedd cael myned i gymdeithas ei frodyr yn wledd o'r fath a garai. Cymerai ofal geneth lled ieuanc. Wel, meddai, yr wyf fi wedi dal y ferch ieuauc hon yn lled fore, pan y byddai yn dyfod i'r siop yn blentyn. Ac meddai drachefn, dim ond i siopwr ofalu (yr oedd siopwr yn un o'r rhai a wnelai i fyny y cwmni) am fod yn ffrindiau a'r plant, a'r gweision, a'r morwynion, y mae yn sicr o gael gafael ar eu rhieni a'u meistriaid. Ni byddem ni byth yn gadael i blentyn dd'od i'r siop heb roi rhywbeth iddo, pe byddai ond un sweet. Os gwneir hyn bydd y plant yn sicr o dd'od i'r siop. Os gwelai un plentyn un arall, gofynai,