Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ddyddiol Frytanaidd yn Mhennal bron o'r cychwyn cyntaf. Ar yr 17eg o Rhagfyr, 1874, trosglwyddwyd yr ysgol hon i Fwrdd Ysgol Towyn a Phennal, sef amser ffurfiad cyntaf y Bwrdd. Cafwyd cryn lawer o wrthwynebiad yn y ddau blwyf i'r symudiad.

Noson a hir gofir oedd y noson y cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn hen Ysgoldy Brytanaidd Pennal, i'r diben o egluro y Ddeddf Addysg, ac i ofyn barn y plwyfolion o berthynes i ffurfio y Bwrdd. Ni bu yr un cyfarfod mor gynhyrfus yn yr ardal yn ystod deng mlynedd ar hugain o amser. Yr oedd y ffermwyr oll, ac yn ol dywediad y Parch. Griffith Williams, Talsarnau, y cybyddion i gyd yn bresenol yn y cyfarfod hwnw. Llywydd y cyfarfod oedd C. F. Thruston; Ysw., Talgarth Hall. Efe oedd prif gefnogydd yr Ysgol Frytanaidd ac Ysgol y Bwrdd tra fu byw. Gwrthwynebai rhyw nifer o bobl yr ardal y symudiad gyda'r Bwrdd Ysgol, am eu bod yn credu fod gormod o addysg yn andwyo y wlad—yn anghymwyso y plant i fod yn weision a morwynion. Ond y bwgan mawr yn erbyn y symudiad oedd y dreth, yr hon a ofnai y ffermwyr fel rhai yn ofni gwr a chledda. Yr oedd rhyw haner dwsin o'r dosbarth hwn yn tyrfu yn y cyfarfod o'r dechreu i'r diwedd. Ac wrth eu clywed yn terfysgu, gofynai y Cadeirydd, "What do they say?" Atebwyd ef mai dadleu yr oeddynt dros yr Egwyddor Wirfoddol. "Dros yr Egwyddor Wirfoddol yn wir," meddai yntau, "Mae yr Ysgol Frytanaidd wedi bod yma er's dros bum mlynedd ar hugain, ac ni roddodd yr un o honynt swllt erioed at ei chario ymlaen—rhai braf ydynt hwy i ddadleu dros yr Egwyddor Wirfoddoll" Nid oedd dim taw, modd bynag, ar dafodau rhai o'r dynion terfysglyd hyn, yr oeddynt yn tyrfu a baldorddi yn ddibaid. "David," ebe'r llywydd, gan gyfeirio ei sylw at un o'r siaradwyr, " tell that man something, that he may be silent." Cyfododd Dafydd Rolant i fyny, ac meddai, "Yr ydych yn camgymeryd yn fawr,