Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

B—— bach, peth iawn ydi y plan yma mae y Llywodraeth wedi ei gymeryd i ddyfod ag addysg i'r wlad, ac fe fyddwch chwi yn siwr o'i leicio fo yn mhen tipyn. 'Rwy'n cofio yn dda glywed am geffyl wedi rhisio wrth weled rhyw dwmpath llwyd ar y ffordd; yr oedd o yn strancio ac yn gwylltio rhag dyfod yn agos at y twmpath llwyd. O'r diwedd, fe lwyddwyd i lonyddu yr anifail, a beth oedd yno ar y ffordd ond twr o wair, ac erbyn d'od ato, yr oedd y ceffyl yn ei fwyta yn braf. Fe ddowch chwithau mor hoff o'r plan yma sydd gan y Llywodr aeth, nes y byddwch yn barod i'w fwyta." "Dafydd Rolant,” ebe ei wrthwynebydd, "ydach chi ddim yn gwybod mai un stenyn (ysgadenyn —— herring) a dorodd asgwrn cefn y ceffyl!" Y mae camrau breision wedi eu cymeryd gydag addysg y gymydogaeth er y pryd hwnw.

Yn yr hyn a ysgrifenwyd o'r blaen am yr hanes hwn, cyfeiriwyd fwy nag unwaith at ddyfodiad yr Hybarch Richard Humphreys i fyw i gymydogaeth Pennal. Daeth yma trwy gysylltiad a'i ail briodas, yn Mehefin , 1858, ac yma yr arosodd am y pum mlynedd dilynol, hyd ei farwolaeth. Yr oedd y gwr hwn yn llon'd gwlad o ddoethineb ynddo ei hun. Yr oedd David Rowland ac yntau, nid yn unig yn gyfeillion pur, ond yn edmygwyr mawr, y naill o'r llall. Rhedai eu talentau yn union yr un cyfeiriad, treulient lawer o amser gyda'u gilydd, a byddent fel yr hen feirdd gynt, beunydd yn ateb y naill y llall gyda'u ffraethineb pert a pharod. Bu dyfod i gyffyrddiad â'r gallu athrylithgar mawr oedd yn Mr. Humphreys yn foddion i dynu allan y dalent oedd yn wreiddiol yn D. Rolant. Ymeangodd ei wybodaeth yn y cylch Methodistaidd, a daeth yn fwy cydnabyddus y pryd hwnw a rheolau a threfniadau y Cyfundeb. Daeth ef ei hun hefyd, o hyny allan, yn fwy adnabyddus a chyhoeddus yn y sir. Creodd yr amgylchiad hwn gyfnod newydd yn ei fywyd. Coffäi hyd ddiwedd ei oes