Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD V.—DAFYDD ROLANT A MARI ROLANT.

CYNWYSIAD.—Rhagluniaeth yn clirio y ffordd iddo briodi—Yn dyfod a gwraig i Bennal—Teulu Mary Rowland—Y lle y cyfarfyddasant gyntaf—Y Rhagbarotoad—Ymgynghori â'r teulu—Y trafaeliwr yn dyfod heibio—Sylw Mr. Humphreys a Mr. Thruston—Bys bach y cloc o'i le—Beth fydd swper y pregethwr—Galw arno o'r ardd—Yn cymeryd meddyginiaeth y naill yn lle y llall—Yn barod i briodi yn gynt y tro nesaf—Ar lan y môr yn y Borth—Yn anghytuno oherwydd myned i goncert yn Llandrindod— Dull y ddau o gario busnes ymlaen—Darluniad y Parch. Griffith Williams o garedigrwydd y ddau—Y ty yn llawn o fis Mai i fis Medi—Cân Dafydd a Mari, gan R. J. Derfel

 MSER cofiadwy yn oes Dafydd Rolant oedd yr amser y daeth yn wr priod. Ni byddai hanes ei fywyd yn haner cyflawn heb grybwyllion gweddol helaeth am yr amgylchiad oll-bwysig hwn. Crybwyllion am y pryd a'r modd y cymerodd yr undeb le, yn gystal ag am ddyddiau bywyd y ddau o hyny allan.

Arhosodd un o'i ddwy chwaer—Mary, i'r hon yr oedd ganddo barch mawr gartref i edrych ar ol y ty a'r siop i'w thad a'i brawd, tra yr elent hwy allan i weithio. Felly y buont flynyddau lawer—hwy eu dau, a hithau yn gofalu am eu cartref Wedi i'r hen wr heneiddio, yr oedd bywoliaeth y teulu i fesur mawr yn dibynu ar y mab. Bu hyn yn rhwystr iddo i wneuthur cartref iddo ei hun, fel yr arferai ddweyd, hyd nes yr oedd yn