Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llawn deugain mlwydd oed, pryd y mae synwyr a doethineb dyn yn y man goreu. Yr oedd merch ieuanc, modd bynag, yn aros yn y Fronfelen, palasdy wrth ymyl pentref Corris, yr hon yr oedd ef wedi ei gweled er's deunaw mlynedd, ac yr oedd wedi meddwl am dani yn wraig er's deunaw mlynedd. Pan y cliriodd Rhagluniaeth y ffordd, hyny ydyw, yn mhen rhyw nifer o fisoedd wedi marw y chwaer a gadwai y ty, ac a ofalai am gartref ei dad ac yntau, sef yn mis Mai, 1852, daeth ef a'r ferch ieuanc hon yn wraig iddo ei hun i Bennal, ac wedi cyraedd y ty, dywedai wrth ei dad, "Dyma Mari, nhad." "Ho," ebe yr hen wr Hugh Rolant,—"Let Mary live long." Mis Mai eto y dechreuodd y cyfnod hwn ar ei oes, a pharhaodd heulwen Mai i dywynu ar babell y ddau trwy ystod hir eu bywyd.

Genedigol o Ddolgellau ydoedd Mary Edwards—dyna oedd ei henw cyn priodi—a dilynai grefydd er pan yn bymtheg oed. Gadawodd gartref yn bur ieuanc. Bu yn aros i ddechreu yn Machynlleth, dros dymor byr, ac wedi hyny, fel y dywedwyd am ddeunaw mlynedd yn y Fronfelen, gerllaw Corris. Y meddyg adnabyddus, Dr. Evans, a breswyliai yn y Fronfelen yr holl flynyddau hyn. Chwiorydd iddi hi oeddynt Miss Ann Edwards, Bont Fawr, a Mrs. Robert Pugh, Plascoch, Dolgellau, a Mrs. Evan Owen, Braichcoch, Corris, y rhai sydd wedi gadael y fuchedd hon. Brawd iddi hi oedd y diweddar John Edwards, Corris, yr hwn a fu yn wr amlwg a blaenllaw gyda chrefydd, yn mysg Cyfundeb y Wesleyaid, am oes faith. Chwaer iddi hi ydyw Mrs. Griffith Ellis, sydd yn byw yn awr yn Bro Aran, Dolgellau. Y teulu oll yn barchus a chrefyddol, ac yn nodedig am eu caredigrwydd.

Parhaodd undeb agos rhwng Pennal a Dolgellau, byth er amser y briodas hon, bedair blynedd a deugain yn ol. Yn mis Mai, 1885, yr oedd Cynhadledd Canmlwyddiant yr Ysgol Sabbothol yn cael ei chynal yn Nolgellau. Ar ei diwedd,