Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a ddeuai i mewn, "Os oes arnoch eisiau rhywbeth i'w fwyta, ewch at Mari; os oes arnoch eisiau rhywbeth i'w wisgo, dowch at Dafydd," Pan fyddai y siop yn llawn o gwsmeriaid, yn enwedig ar nos Sadyrnau, byddai ef yn sicr o ddweyd rhyw bethau i roddi pawb yn y lle mewn tymer dda, ac felly yn ddigon boddlawn i ddisgwyl eu tro am eu neges. "Mae yn haws i mi werthu yn rhad na neb yn y wlad," dywedai. "Y mae tri pheth yn peri iddi fod felly, 'does gen' i ddim rhent i'w thalu; 'does gen' i ddim plant i'w magu; 'does gen' i ddim gwraig anodd ei chadw." Dro arall, pan fyddai mewn prysurdeb wedi methu gyda rhyw bethau bach, dywedai, "O, nid yw hyn fawr o bwys, gyda phethau bach y byddaf fi yn methu; y pethau mawr a wnes i 'rioed, yr oeddynt i gyd yn iawn. Mi briodais yn iawn, beth bynag!" Gwnelai hyn bawb yn y siop yn llawen, a'r wraig, yr hon oedd yr ochr arall i'r counter, yn cael ei boddhau gan y sylw, a atebai, "Ond ydi Dafydd yn ddigri."

Mewn Cyfarfodydd Cyhoeddus a gynhelid yn yr ardal, yn y cyffredin, llywyddid gan y boneddwr a breswyliai yn Talgarth Hall, gerllaw pentref Pennal, C. F. Thruston, Ysw. Gelwid Dafydd Rolant bob amser i'r platform i siarad, ac mor sicr a hyny, byddai ef yn siwr o ddweyd rhywbeth yn ystod ei araeth am Mari. "There," ebe Mr. Thruston, y llywydd, "David is in his element when he begins to speak of Mary."

Gellid adrodd nifer hirfaith o hanesion, a digwyddiadau, a dywediadau, er dangos fel yr oedd pob un o'r ddau yn ffitio ei le, a'r modd y byddent yn rhoddi difyrwch yn eu cartref, yn gystal ag yn mysg dieithriaid. Ond rhaid cadw o fewn terfynau yn y benod hon, rhag y byddis yn gorfod cyfyngu ar ranau eraill o'r Cofiant. Yr oedd ef yn hynod o barod i wneuthur cymwynasau i'r cymydogion, ac yn neillduol gyda phob peth y capel a'r achos. Yr un pryd, perthynai iddo lawer o ddiofalwch, ac yn ddigon aml gadawai waith ar y canol, neu ynte