Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dweyd, 'dear me, 'rydach chwi yn Mhennal yma wedi gwneyd eich capeli yn agos iawn at eu gilydd.' Ydym, meddwn ineu, yr ydym wedi eu gwneyd mor agos at eu gilydd ag y gallem, er mwyn i ni fod yn un pan y daw y mil blynyddoedd." Yr oedd hyn ynddo ei hun yn ddigon o ddiolch, oblegid rhoddwyd pawb ar unwaith yn y dymer oreu oedd yn bosibl.

Yn Llandrindod un haf yr oedd yno, cynhelid math o gyfarfod cystadleuol Cymreig yn y lle. Yr ymwelwyr wedi ei drefnu yn eu plith eu hunain. Yn y cyfarfod yr oedd araeth ddifyfyr yn un o'r testynau, a haner coron o wobr i'r goreu. Eisteddai Dafydd Rolant yn nghanol y gynulleidfa, a thra cymhellid ymgeiswyr i dd'od ymlaen i areithio, ceisiai un o'i gyfeillion a eisteddai yn ei ymyl ei berswadio ef yn ddistaw i ymgeisio gan ddywedyd, "Ewch ymlaen Dafydd Rolant, yr ydych chwi yn siwr o enill—y mae haner coron o wobr." "Na," meddai yntau, gan ysgwyd ei ben, "na, mae gen i goron, 'daf fi ddim i golli hono wrth geisio enill haner coron."

Ymgeisiodd ryw dro drachefn yno ar ysgrifenu llythyr serch, a'i osod ef ag un arall yn gyfartal a wnaed y tro hwnw.

Yr oedd ef a gweinidog penodedig gan y Cyfarfod Misol, ar ymweliad unwaith ag eglwys Towyn, er cynorthwyo mewn dewis blaenoriaid. Yr oedd Mr. Thomas Jones—un o flaenoriaid rhagoraf Gorllewin Meirionydd—wedi symud o Foel Friog, Corris, lle 'roedd yn flaenor blaenllaw, i breswylio yn Caethle, Towyn, rhyw ddwy flynedd yn flaenorol, ac wedi ei ddewis ar ei ddyfodiad i'r lle yn un o flaenoriaid eglwys Towyn. Symudodd Mr. Griffith Jones, Gwyddelfynydd, un arall o brif flaenoriaid y Sir, i breswylio i Ty Mawr, Towyn. A neges y ddau genad dros y Cyfarfod Misol oedd edrych i reoleiddiad ei ddewisiad ef gan yr eglwys yno. Wrth draddodi ei anerchiad yn y dechreu yn y cyfarfod eglwysig, dywedai Dafydd Rolant, "Yr ydych chwi yn lwcus iawn yn Nhowyn yma, yr ydych yn cael eich blaenoriaid yn ready made—West of England hefyd."