Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dyfi. Galwai Rhysyn of "fy nghâr." Daeth Rhysyn i Ddolgelynan un diwrnod, a gofynai i'r gwr, a oedd ganddo ddim hanes gwraig iddo. "Oes," meddai, "mae un yn Nhai Newyddion, Pennal, o'r enw Betty, Cwmffernol. Dos i Gelligraian, at Shion Llwyd, fe wnaiff ef ddangos y ty i ti." Aeth yntau yn ol y cyfarwyddid, a chafodd gan Shion Llwyd gyda pharodrwydd ddyfod i ddangos y ty iddo, yr hwn a lechai ei hun o'r tu ol i'r gwrych, i edrych beth ddeuai o'r anturiaeth. Ni fu yno ond ychydig funydau nes iddo weled trwy y gwrych Rhysyn yn cael ei fwrw allan o'r ty, a'r ysgubell fedw wlyb ar ei war, a'r drws yn cael ei gau yn glep ar ei ol. Wedi myn'd yn ol at ei gymwynaswr, ebe Rhysyn, "I be 'roedd fy nghâr o Ddolglynan yn fy ngyru fi at hona? 'Does ar hona ddim eisio gŵr."

Hanesyn yr adroddodd lawer arno mewn rhyw fath o gwmpeini ydoedd, am y dyn yn dewis cael ei yru i'r crogbren yn hytrach na phriodi. "Yr oedd," meddai, "er's llawer o oesau yn ol, gyfraith ryfedd iawn yn perthyn i'r wlad hon; pan fyddai dyn wedi ei draddodi i'r crogbren, os deuai ryw ferch ymlaen i'w briodi, cai ei arbed a'i ollwng yn rhydd. Cymerodd amgylchiad felly le yn Llundain unwaith. Yr oedd dyn wedi ei gael yn euog, ac wedi ei draddodi i ddioddef cosp eithaf y gyfraith. A thra'r oedd yn cael ei yru mewn cerbyd ar hyd strydoedd Llundain, deuai y bobl allan o'u tai' a gofidient yn fawr na buasai rhywun yn cymeryd trugaredd ar y dyn. O'r diwedd, cyn cyraedd pen y siwrna, dyma ryw ferch yn dyfod 'ymlaen i gynyg ei hun iddo. Gwnaeth y driver y peth yn hysbys i'r dyn, ac arafodd y cerbyd. Gadewch i mi ei gweled,' ebe'r dyn. Ac wedi iddo gael hyny, dyna ddywedodd, Long nose, sharp eyes, drive on coachman."

Adnabyddir y stori ganlynol wrth yr enw "Barr Toss." Yr oedd eglwys unwaith wedi bod mewn gohebiaeth â dyn ieuanc gyda golwg ar ei gael yn weinidog; y drafodaeth wedi ei chario