Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

'rydwyf yn hoffi eich enw—Mr. Green; 'rydwyf yn gobeithio yn fawr mai ever-green fyddwch chwi."

Yr oedd ef a'r Hybarch. Richard Humphreys yn siarad â'u gilydd rywbryd, am ryw ddyn mewn rhyw fan. Yr oedd y dyn yn aelod crefyddol, ond yr oedd yn wr hynod o siaradus; siaradai lawer mwy na'i ran ar bob mater. Rhoddai ei fys yn mrowes pawb, byddai yn uchel ei gloch ynglŷn â phob amgylchiad, a chyfodai yr ordd fawr i guro pawb a phob peth, heb ddim awdurdod yn perthyn i'w ordd fawr ef. "Mae hwn a hwn yn aelod o'r corff, onid ydyw Mr. Humphreys?" ebe Dafydd Rolant. "Ydyw, mae'n debyg ei fod o," ebe yr heu batriarch. "Pa aelod o'r corff ydych yn feddwl ydi o, Mr. Humphreys?"

"Ei dafod o," oedd yr ateb ffraeth."

Ymwelydd mynych â Llwynteg, yn mlynyddoedd olaf ei oes, ydoedd y diweddar Barch. Edward Price, Bangor Birmingham a Llanwyddelen cyn hyny. Da y gwyr pawb a adwaenent y gwr hwnw, mai nid yn fynych y cyfarfyddid â neb llawnach o ffraethineb. A phan y delo dau ffraeth at eu gilydd, nid gwaith anhawdd ydyw taro tân. Yr oedd gan Mr. Price yn niwedd ei oes set o ddanedd prydferth, ac yr oedd ef a Dafydd Rolant wedi bod yn siarad â'u gilydd yn eu cylch amryw weithiau. Daeth Mr. Price i Llwynteg hebddynt un diwrnod, a phwy oedd yn agor y drws iddo y diwrnod hwnw ond gwr y ty ei hun. Ac wedi ei wahodd i mewn, a bron cyn iddo gael amser i eistedd i lawr, gofynai Dafydd Rolant iddo, "Mr. Price, lle mae eich danedd chwi?" Yr unig ateb swta a roddwyd oedd, "Mae nhw yn y mhocet i."

Un o'r lliaws y darfu Mr. a Mrs. David Rowland ffurfio cydnabyddiaeth â hwy yn Llandrindod oedd J. W. Stephens, Ysw., Y.H., Llechryd. Daeth Mr. Stephens i Bennal, i edrych amdanynt ar ddiwedd un haf, pryd yr oedd yn aros yn Penrhyn dyfi, gerllaw Machynlleth. Daeth Mr. Meredith, y Penrhyn, gydag ef i Bennal. A thra yr oedd y ddau yn agor gate y