Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

theimladau gwahanol iddo ei hun, a thrwy hynny daeth y Cymry, efallai, yn fwy ymwybodol o'u nodweddion arbennig eu hunain. Diau y gwelid y duedd hon yn fwy cyffredin yn y rhannau hyn nag yn y siroedd pellaf o derfyn Lloegr. Yr un modd ceir fod yr Ysgol Ysgotaidd o nofelwyr yn disgrifio cymeriadau oeddynt yn byw yn rhannau isaf Scotland, ar y terfyn rhwng y ddwy wlad, ac y mae rhai o'r cymeriadau cryfaf, mwyaf trawiadol a ddisgrifir yn rhai oeddynt wedi dod i lawr o rannau mwy Celtaidd o'r Alban. Heblaw bod yr amser, ac hyd yn oed lle ei breswylfod yn fanteisiol iddo, dylid ychwanegu fod amgylchiadau bywyd yr awdur ei hun yn gyfryw ag i ddyfnhau ynddo y duedd i ddarlunio cymeriadau â bywyd crefyddol ei wlad Yr oedd wedi ei orfodi gan afiechyd i gilio, bron yn hollol, o bob gwaith cyhoeddus; anfonwyd ef i "dir neilltuaeth," a phriodol y galwai y pregethau a ymddangosent yn y Drysorfa yn "Offrymau Neillduaeth." Sylwa Froude, mai wedi i Bunyan ymneilltuo o'i waith cyhoeddus i dawelwch carchar Bedford, y daeth i ysgrifennu y darlun anfarwol a roddodd o fywyd crefyddol y Piwritaniaid yn Nhaith y Pererin. Yr un modd yn ein dyddiau ni. Wedi i rai o'r ysgrifenwyr Ysgotaidd,