Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

megis Stevenson a Ian Maclaren ymadael o'u gwlad, y cafwyd ganddynt y disgrifiadau o'r cymeriadau a welsant yn eu hen gartre. Y mae yn amheus iawn gennym pe buasai iechyd Daniel Owen wedi parhau yn gryf, fel ag iddo allu myned ymlaen gyda gwaith y Weinidogaeth, y cawsem y Dreflan a Rhys Lewis. Pan yr ydoedd yn hanner ei ddyddiau gwanhawyd ei nerth, ac i fesur mawr edrychodd a sylwedydd a fu am y gweddill o'i fywyd, a ffrwyth y cyfnod hwn yw y llyfrau sydd wedi gwneud ei enw yn un teuluaidd drwy Gymru.

I ba beth y priodolir ei boblogrwydd fel ysgrifennydd? Nid oes amheuaeth na chafodd Rhys Lewis y derbyniad mwyaf awchus a chyffredinol o'r un llyfr Cymraeg ar ei ymddangosiad cyntaf. Daeth y Drysorfa oedd yn gyfyngedig i aelwydydd Methodistaidd yn hysbys drwy yr holl wlad. Cododd rhif ei derbynwyr yn fawr; ac wele drydydd argraffiad o'r llyfr yn ymddangos, a hynny o fewn ychydig flynyddoedd. Diau fod mwy nag un ateb i'r cwestiwn,—Pa fodd y rhoddir cyfrif am y derbyniad roddwyd iddo? Nodwn yma rai atebion. Tybiwn y rhaid priodoli rhyw gymaint o'r poblogrwydd hwn i'w arddull; tra yr oedd arddull ysgrifenwyr Cymreig