Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

yn ogystal ag yn yr hen ganeuon Cymreig ydoedd mor hoff o drysori yn ei chof. Darfu iddo hefyd roddi lliw lleol ar ei arddull drwy ddwyn i mewn lliaws o eiriau ac ymadroddion a ddefnyddid yn bennaf yn Sir Fflint Y mae yn hysbys fod disgrifiadau o gymeriadau gwahanol rannau o Brydain, pan wedi eu hysgrifennu ym mhriod-ddull y rhan honno o'r wlad, megis Lancashire, yn dra phoblogaidd gyda'r darllenwyr. Nid oes amheuaeth nad yw poblogrwydd nofelau Scotaidd i’w briodoli, i raddau, i waith yr awdwyr yn dwyn i mewn geiriau ac ymadroddion sydd allan o'r ffordd gyffredin. Yr ydym wedi clywed llawer yn ystod y blynyddoedd diweddaf am Gymraeg Rhydychen, a gwyddys pa mor boblogaidd y mae wedi dod er gwaethaf yr ysgwyd pen gan geidwaid y Gymraeg; y mae dull Mr O. M. Edwards, ac eraill o ysgrifennu, yn wrthweithiad amlwg oddi wrth yr ' hen ddull trymaidd. Y mae yr ysgol newydd hon wedi llwyddo i ysgafnhau yr arddull Gymreig, a theg yw cofio mai Daniel Owen ydoedd un o'r rhai cyntaf o'n hysgrifenwyr adnabyddus i dorri tir newydd yn y cyfeiriad hwn. Wrth ddarllen llyfrau Daniel Owen, teimla y gwerinwr ei hun gartre, tra y teimla ei hun yn fynych yn gyffelyb i un yn darllen iaith ddieithr wrth ddarllen aml i