Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

lyfr Cymraeg. Y mae ei weithiau yn hawdd eu deall, bron na ddywedem nas gellir camgymryd y meddwl; y mae felly, nid yn unig o herwydd y geiriau syml a chartrefol a ddefnyddir, ond o herwydd chlirder yr arddull - y bare style fel ei gelwir. Gwelir grym ei arddull os cymharwn y cyfieithiad Saesneg o'i weithiau â'r Gymraeg; hyd yn oed yn y rhannau hynny lle y mae y cyfieithiad yn hollol gywir a phriodol, teimlir fod yna rhyw elfen wedi ei cholli oedd yn ein swyno yn y gwreiddiol. Efallai y tybir ein bod yn rhoddi gormod o bwys ar arddull yr awdur ond dylid cofio fod ei ddull arhennig ef o ysgrifennu yn llawer llai cyffredin bymtheng mlynedd yn ôl nag ydyw heddiw. Y mae ei weithiau hefyd yn ffrwyth sylwadaeth; nid creadigaethau wedi eu nyddu o ymysgaroedd ei ddychymyg ei hun ydynt Yr oedd Daniel Owen wedi ei ddonio â gallu eithriadol i sylwi, gwelai y digwyddiadau lleiaf; ac er nad oedd yn hynod am ei allu i gofio ffeithiau, eto cadwai afael tyn yn yr argraffiadau a wnaed ar ei feddwl; yr oedd yn un y gellid dweud am dano ei fod yn man of observation, chwedl y diweddar Richard Humphreys o'r Dyffryn, a medrai gyfleu ffrwyth ei