Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

yn mwynhau cymdeithas eu cyd-ddynion yn fwy; er hynny, ni chymerai fantais ar ei gyfeillion i awyro ei syniadau ei hun. Medrai wrando; a hoff iawn oedd ganddo glywed newyddion; yr oedd pob math o ddynion yn ddiddorol iddo. Er nad ellid dweud ei fod erioed wedi gwneud llawer o gyfeillion mynwesol, yn enwedig ar ôl blynyddoedd ieuenctid[1] eto yr oedd ganddo gydnabyddiaeth eang o fewn cylch ei gartre. Y fath ydoedd ei ddiddordeb mewn eraill, fel yr ymddiriedai llawer iddo eu cyfrinion. Gwnelai i'r mwyaf cyffredin ei gyraeddiadau deimlo yn gartrefol yn ei gwmni, a chymerai ddiddordeb byw yn amgylchiadau pawb o'i amgylch; ac y mae yn sicr gennym fod ei ymadawiad wedi peri gwacter ym mywyd llaweroedd. Canfyddai yr elfennau da, a hynny mewn cymeriadau amhoblogaidd neu ddiffygiol; a gallai ddisgrifio yr hyn a welai. Prin, hwyrach, y gellid dweud fod ei farn yn gryf; yr oedd yn ddiffygiol mewn cydbwysedd, a chai ei gario ymaith gan ei deimladau fel y cyffredin ohonom. Yr oedd yna rywbeth human iawn ynddo yn yr ystyr hon. Ffrwyth ei sylwadaeth, gan hynny, yw llawer o'r

  1. Gwel ei gân " Forau y Nadolig " ar ddiwedd y gyfrol hon