Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

yn nisgrifiadau yr awdur o gymeriadau yn ymylu ar fod yn hurt, megis Thomas a Barbara Bartley, a Marged, ac yn arbennig yn ei wawl-luniau o John Aelod Jones, Jones y Plismon, ac Eos Prydain. Ysmaldod iachus a chwareus a geir yn y disgrifiadau hyn. Teimla y darllenydd fod llygaid yr awdur yn twinklo yn siriol arno mewn llawer man. Un wedd ar ei ysmaldod ydyw, drwy orliwio yr amgylchiadau, a hynny yn y fath fodd ag i adael y darllenydd wybod fod yr awdur yn ymwybodol o hynny. Nis gellir dweud fod ei ysmaldod bob amser yn berffaith naturiol; teimla un yn awr ac eilwaith oddi wrth ymgais yr awdur i fod yn ddoniol; y pryd hynny nid yw yn ffyddlon i'w arddull ei hun. Yr ydym yn dyfalu fod dylanwad Dickens i'w ganfod arno yn y rhannau hynny o'i waith, canys yr oedd yn edmygydd a darllenydd mawr o Dickens; a thra yr ydym yn barod i gyfaddef fod darllen Dickens wedi bod yn foddion i aeddfedu ei alluoedd fel ysgrifenydd, eto nid oedd yn efelychydd ymwybodol ohono. Nid efelychiad yw Rhys Lewis.

Elfen arall ydyw ei dynerwch (pathos). Diamau gennym mai dyma un o'r haenau dyfnaf yn ei weithiau, a'r elfen hon yn ei ysgrifeniadau sydd yn cyffwrdd dwysaf â chalon y darllenwyr