Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

a dyma a rydd gyfrif hefyd am yr afael gafodd rhai o'i weithiau, yn enwedig Rhys Lewis, ar liaws nad oeddynt erioed wedi teimlo unrhyw swyn mewn llenyddiaeth, yn enwedig yn ffurf o ffug-chwedl. Yr oedd yna elfen leddf a dwys yn gynhenid yn yr awdur, oblegid yr oedd yn Gelt trwyadl; ac yr oedd amgylchiadau trallodus ei febyd, ac yn enwedig ei afiechyd peryglus, wedi dwysau yr elfen hon ynddo. Y mae yna elfen o brudd-der yn treiddio drwy ei ysgrifeniadau islaw yr elfen chwareus. Teimlir yr un elfen yn Stevenson, y nofelydd Scotaidd, y mae y ffurfafen yn tueddu at fod yn bruddaidd, ac ar yr adegau mwyaf golau, ni adawir i ni anghofio yn llwyr fod yna gymylau tywyll ar y gorwel. I bresenoldeb yr elfen hon yn ei weithiau yr ydym yn priodoli poblogrwydd ei weithiau gyda'r canol oed, a'r oedrannus, — y rhai sydd wedi gorfyw breuddwydion mebyd ac ieuenctid, ac wedi profi troeon chwith yr yrfa. Yr oedd y nodwedd hon — y nodwedd gysurol y gellir ei galw — yn cyfodi o gydymdeimlad yr awdur â phobl dlodion ein gwlad, y profedigaethus a'r adfydus; yr oedd profiad ei fywyd ef ei hun wedi ei ddysgu i ddisgrifio treialon y dosbarth hwn—