Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

"They learn in sorrow what they teach in song". Yr oedd ar Gymru angen neilltuol am lenyddiaeth o natur gysurol, yr oedd llaweroedd yn dioddef mewn unigrwydd ar hyd a lled ein gwlad, ac yn sychedu am gydymdeimlad. Gwelsom amryw enghreifftiau o hyn; clywsom hen gwpl, rhai fuasent yn sefyll yn lle y gwreiddiol o Thomas a Barbara Bartley, yn dweud iddynt eu dau wylo llawer uwchben ei ddisgrifiadau; ac y mae rhai wrth anfon eu rhoddion at osod i fynnu y cerflun ohono yn cydnabod eu dyled iddo am y cysur a weinyddodd ei lyfrau iddynt Nis gellir dweud fod yn ei weithiau gyd-drawiadau hynod; nid yw yn enyn chwilfrydedd yn y darllenydd i wybod beth fydd y diwedd. Rhaid cydnabod nad oedd yn gelfydd yn ngweithiad allan ffug-chwedl, yr hyn a elwir yn gudd-amcan (plot); yr oedd ef ei hun yn ymwybodol o hynny, a chamgymeriad, ni chredwn, ydoedd iddo geisio at ddwyn i mewn rai o nodweddion y nofelau Saesneg i'w weithiau. Ei ymgais yn y cyfeiriad hwn sydd yn cyfrif am y ffaith nad yw rhannau diweddaf y Dreflan a Rhys Lewis yn gyfartal i'r rhan flaenaf. Diau ei fod yn fwy llwyddiannus yng ngweithdai allan y stori yn Enoc Huws a Gwen Thomas, er nas gallwn