Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

gydnabod eu bod yn gyfartal mewn gwir werth i'r nofelau cyntaf a nodwyd. Fel disgrifiad o gymeriadau Cymreig, ni chredwn y saif clod gweithiau Daniel Owen. Yn ei gyfarchiad i'r darllenydd yn dechrau Rhys Lewis, dywed yr awdur, "Os oes rhyw rinwedd yn y llyfr, Cymreigrwydd ei gymeriadau yw hwnnw." Yn y Dreflan cawn ddisgrifiad o'r cymeriadau oedd yn byw yn yr Wyddgrug pan ydoedd ef yn ieuanc. Yn Rhys Lewis drachefn, nid oes amheuaeth nad oedd rhai o gymeriadau y dref o flaen ei feddwl pan yn tynnu darlun o Abel Hughes, y mae ar gael yn ysgrifen Daniel Owen ei hun mai ei fam ydoedd y gwreiddiol o Mari Lewis, er bod serch a thalent ei mab wedi ei hamwisgo â nodweddion na chanfyddid hwynt gan y cyffredin. Dywedir hefyd fod yna amryw o chwiorydd, "Mamau yn Israel," yn byw yn yr Wyddgrug yr amser hwnnw, a awgryment i'r awdur amryw o'r nodweddion a ddisgrifir mor fyw yng nghymeriad Mari Lewis; ac y mae y gafael cryf y mae y darlun hwn o fam Rhys Lewis wedi ei gael ar feddwl y darllenwyr yn brawf pa mor unol ydyw y disgrifiad ag atgofion cysegredig lliaws drwy Gymru. Y ddau gymeriad mwyaf adnabyddus, efallai,