Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/128

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Bartley; gwelir rhai o elfennau dyfnaf meddwl yr awdur yn y serchogrwydd tyner gyda pha un y mae yn trin helyntion teuluaidd a chrefyddol y ddau "hen bar," ac yn enwedig yn ei ddisgrifiad o farwolaeth Seth. Cyfaddefai ei fod wedi ei orchfygu gan ei deimladau yn llwyr pan yn portreadu yr amgylchiadau ynglŷn â marwolaeth Seth. Credwn y gwelir yr awdur ar ei orau yn y disgrifiad o Thomas a Barbara Bartley. Gwelir mwy o ddyfnderoedd ei ysbryd yn y rhan hon nag yn un portread o'i eiddo; yr oedd Thomas Bartley wedi dod yn rhan o'i fywyd, yr oedd yn byw gydag ef; ac yn ei gystudd diweddaf, pan yn cael ei flino gan ddiffyg cwsg, tynnai ddarlun o'i hen gyfaill (a'r hwn sydd yn awr ger ein bron, sef y darlun sydd yn fy meddiant), fel yr ymddangosai i lygaid ei ddychymyg.

"Enoc Huws" a "Gwen Thomas"

Y mae cylch y ddwy ffug-chwedl ddiweddaf yn ehangach na'r rhai blaenorol; bywyd tref, a disgrifiadau o gymeriadau a geir yn y Dreflan a Rhys Lewis fel ffrwyth ei atgofion a'i sylwadaeth bersonol ef ei hun. Cawn ef yn ei weithiau olaf yn dibynnu mwy ar yr hyn a glywodd gan