Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/137

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

yn ei wlad lai na hoffi cael darluniad cywir o'i symudiadau crefyddol Y mae yn perthyn i'r disgrifiadau hyn gwerth ehangach na'u perthynas ag un enwad o fewn Cymru. Yn ei draethawd ar On the Aversion of Men of Taste to Evangelical Relgion, dywed John Foster mai cyfeiriadau dirmygus llenorion, a gwawd-luniau nofelwyr, oedd un achos o'r gwrthnawsedd a welid ymysg lliaws yn erlyn crefydd efengylaidd. A chymrid ysgrifenwyr ffugchwedlau hyd gyfodiad yr ysgol Ysgotaidd o nofelwyr, tra anffafriol i grefydd efengylaidd, yn enwedig yn ei ffurf ymneilltuol, y maent wedi bod; ac wrth gofio hyn, ni ddylid rhyfeddu llawer at y gwrthwynebiad a deimlid gan lawer yn erbyn y ffurf hon o ysgrifennu. Os edrychir dros restr prif nofelwyr y ganrif hon, ceir fod amryw o'r rhai enwocaf ohonynt yn amddifad hollol o gydymdeimlad â chrefydd ef efengylaidd; a rhai ohonynt, yn wir, yn ymwrthod yn gyfan gwbl â Christionogaeth. Y mae rhai o'r ysgrifenwyr hyn, er yn talu gwrogaeth ffurfiol fel mater o foesgarwch a chwaeth dda, eto yn hollol ddistaw o berthynas i'r elfennau dyfnaf mewn crefydd; a phan yn rhoddi disgrifiad o gymeriadau o nodwedd