ryfedd os ydyw dynion o'r fath yma yn ymawyddu rai adegau am fod yn guddiedig o olwg y byd? Nid oedd yn rhyfedd fod Mr. Spurgeon yn myned i Germany i dreulio ei holidays; oblegid, fel y dywedai ef ei hun, fe gaffai lonydd yno, gan na fedrai y bobl ei ddeall ef, nac yntau eu deall hwy.
Mae yn ddiammheu fod yr awydd yma am lonyddwch yn ein Hiachawdwr, ar rai adegau. yn ystod ei weinidogaeth gyhoeddus. "Wele fe aeth y byd ar ei ol Ef." Yr oedd pob diwrnod iddo Ef yn ddiwrnod i wynebu miloedd o bobl, ac yntau ei hun yn ganolbwynt yr holl gynnulliad. Yr oedd pob diwrnod iddo Ef yn ddiwrnod i fyned dan driniaeth ugeiniau o elynion a chenfigenwyr, i ateb eu cwestiynau cyfrwys a dyrys, ac hefyd i dderbyn mawl a gogoniant ugeiniau o'i gyfeillion—i wynebu anghrediniaeth yn ei ffurf waethaf—clefydau ac anhwylderau yn eu gwedd fwyaf arswydus. Ni chai amser i fwyta. Yr oedd rhai yn dysgwyl am ei ddysgeidiaeth. rhwng ei dameidiau. Yr oedd y dyrfa yn ei wasgu ymhob man. Os diangai dros y môr mewn bâd, yr oeddynt hwythau yn ei ddilyn yn union. Pa ryfedd os oedd yn teimlo yn lluddedig a gorchfygedig, ac yn dianc i dueddau