Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/156

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd pawb a phobpeth arall yn rhy fychain i allu ei guddio, ac yr oedd yntau yn rhy fawr i allu cuddio ei hun. Mae yn hawdd cuddio y bychan, ond nid ellir cuddio y. mawr. Bydd cawod o eira yn cuddio yr aber fechan yn fynych, ond nid oes bosibl cuddio y môr. Gall yr aderyn bach redeg i'r dyrysni, a'r llwynog i'w ffau, gan wneuthur eu hunain yn guddiedig; ond nid oes gan y graig dalgref le y gall hi roddi ei phen i lawr.

Ychydig o ddynion a enir i'r byd i fod yn amlwg. Ffawd y rhan fwyaf o ddynion ydyw bod yn guddiedig. Mewn dull o siarad, mae naw cant a deunaw a phedwar ugain o bob mil o ddynolryw yn efeilliaid; hyny ydyw, y mae dynion mor debyg i'w gilydd, o ran galluoedd a doniau, fel nad oes dim mwy o wahaniaeth rhyngddynt nag sydd rhwng efeilliaid yn gyffredin. Mae dynolryw yn debyg fel yr ymddengys byddin o filwyr o ychydig bellder.

Pan yr ydych yn edrych ar fyddin neu gatrawd o filwyr, o ychydig bellder, wedi eu gwneyd yn rheng, mae y milwyr i gyd yn ymddangos yr un faint a'r un fath, oddigerth rhyw un neu ddau a welir yn ymgodi ar feirch yn uwch na'r gweddill. Dyna ddarlun o ddynolryw. Mae