Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/157

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tebygolrwydd dynion i'w gilydd yn gwneyd pawb bron yn guddiedig ; ac fe all miliwn o bobl syrthio mewn un dydd, heb i'r byd deimlo dim mwy na phe byddai milfil o ddail yn syrthio yn y goedwig. Ond nid allai Efe fod yn guddiedig. Mae Efe yn ymgodi yn nghanol y ddynoliaeth fel derwen frigog yn nghanol cae o wair. Mewn un ystyr, yr oedd Iesu Grist yn debyg i bob dyn. Yr oedd mor debyg i ddynion yn gyffredin fel y darfu i'r Iuddewon â'u llygaid yn agored ei gamgymeryd am bechadur; ac eto yr oedd Efe yn rhagori cymaint ar blant gwragedd fel y gwelodd y dyn a anesid yn ddall y gwahaniaeth.

Nid allai Efe fod yn guddiedig yn holl amgylchiadau bywyd. Nid allai fod yn guddiedig ar ei enedigaeth. Nid ydyw geni dyn i'r byd o ddim dyddordeb i neb ond i'w fam, ac ychydig o berthynasau a chymydogion. Fe fydd rhai yn dyfod i weled y newyddanedig, mae yn wir ; ond nid "y doethion" fydd y rhai hyny yn gyffredin. Ac, fel y soniwyd eisoes, rhyw un o fil sydd yn gallu tori dim ffigiwr yn y byd ar ol dyfod iddo. Ond yr oedd Iesu Grist yn wrthddrych o ddyddordeb mawr cyn ei eni. Yr oedd yn "ddymuniant" yr holl genedloedd.