Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/160

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyhoeddusrwydd oedd ei allu i gyflawni gwyrthiau. Mae yn syndod y fath orawydd sydd mewn dyn am y rhyfedd. Mae gallu dyn yn derfynol; mae yna ryw derfyn na fedr dyn fyned drosto; a'r ymdrech yn barhâus ydyw am fyned am yr agosaf at y terfyn hwnw. Po agosaf y medr dyn fyned at yr anmhosibl, mwyaf amlwg y mae yn dyfod ymhlith ei gydddynion. Mae y bachgen yn yr ysgol a fedr wneyd rhywbeth na fedr y plant eraill ei wneyd, pa un bynag ai mewn dysgu ai chware, yn rhwym o fod yn hero, ac yn frenin arnynt i gyd yn fuan. Yr oedd y gallu yma yn Nghrist i wneyd "y pethau na wnaeth neb arall," yn gwneyd yn anmhosibl iddo fod yn guddiedig. Yr oedd yna un peth ag oedd wedi gorchfygu dyn yn lân, sef natur. Yr oedd dyn yn gorfod teimlo nad oedd ganddo ddim awdurdod ar ddeddfau hon; a'r peth uchaf y gallodd dyn ei gyrhaedd oedd medrusrwydd, hyny ydyw, gallu i ddeall y deddfau hyn. Ni a ddychymygwn ei weled yn ceisio at rywbeth uwch. Ni a ddychymygwn weled ben longwr meddylgar wedi ei ddal gan yr ystorm ryw noswaith ar fôr Galilea, ac yna yn sefyll yn synfyfyrgar am enyd, ac yn llefaru, "Wel, aros di fôr, a thithan wynt;