Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/161

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

paham yr ydych yn aflonyddu ar grëadur anfarwol fel myfi? Yr wyf fi yn fwy na chwi eich dau. Gostegwch! llonyddwch!" Ond ni wnai y môr ddim ond cynddeiriogi, a'r gwynt ddim ond chwerthin am ei ben. Ni a welwn yr un llongwr drachefn yn yr un amgylchiadau, wedi ei ddal gan yr ystorm, ond fod yna Un Person arall ar y llong, a hwnw yn cysgu. A oedd y gwynt a'r môr wedi cymeryd mantais ar ei gwsg i aflonyddu yn fwy? Mae yr hen longwr, gan gofio aflwyddiant yr hen experiment, wedi ei lenwi â braw, yn rhedeg at yr Hwn oedd yn cysgu, ac yn gwaeddi, "Feistr, Feistr! darfu am danom." Ac wele Hwnw yn fwy ei awdurdod yn ei gwsg na hwynt i gyd yn effro! "Ac Efe a geryddodd y gwynt a'r môr, a bu tawelwch mawr. Pwy yw Hwn, gan fod y gwynt a'r môr yn ufuddhau iddo.?" Mae Hwn yn rhywun gwahanol i bawb. Canys "nid allai Efe fod yn guddiedig."

Mae gan y meddyg well cyfleusdra na neb i fod yn amlwg ac enwog, am ei fod yn ymwneyd â'r peth mwyaf gwerthfawr gan ddyn, sef ei iechyd, ïe, ei fywyd. Ac y mae yn debyg mai y meddyg sydd yn byw agosaf i gymydogaeth yr anmhosibl; ac nid oes neb a fedr ddyfod i