marw unwaith, ond buan y tröwyd hi ya ystafell y byw. Fe gyfarfyddodd gladdedigaeth ar y ffordd unwaith, ond ni fu yno fawr o gladdu y diwrnod hwnw. Y gwirionedd ydyw, fel y dywedai y diweddar Barch. David Jones, Caernarfon, "pe buasai Iesu Grist yn arfer myned i gladdedigaethau, na chladdasent neb byth!" Yr oedd ei allu y fath brofedigaeth iddo fel y buasai yn dyrysu pob claddedigaeth. Ni allai Efe ac angeu fod yn yr un fan yn hir. Bywyd oedd efe i gyd; yr oedd bywyd yn ei ddillad; pe buasai un ddim ond yn cyffwrdd â'i ddillad, fe fuasai yn iach yn y fan. Pe buasent yn rhoi ei gochl ar arch dyn marw, buasai y marw yn cyfodi y foment hono. Lle bynag yr äi Efe, nid allai fod yn guddiedig.
Y wedd yma ar Grist, dybygid, oedd gan yr efengylwr Marc o flaen ei feddwl pan ddywedodd nad allai Efe fod yn guddiedig. Ond mor wir ydyw yr ymadrodd am dano ymhob ystyr. Y mae yr hyn ydyw Efe ynddo ei hun, y Dwyfol a'r dynol yn un Person, er ei fod yn llawn dirgelwch, yn gyfryw nad ellir ei guddio. Yr oedd ei honiadau digyffelyb yn ei osod ar ei ben ei hun yn nghanol y ddynoliaeth. Yr oedd ei ddysgeidiaeth bur a newydd mor anhawdd ei