Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/164

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chuddio a chuddio yr haul. Yr oedd ei fywyd perffaith a dibechod yn sefyll ar ei ben ei hun yn hanes dyn. Ac yn enwedig y mae amcan mawr ei ddyfodiad i'r byd, a'r hyn ydyw ar gyfer pechaur, yn ei osod mewn dysgleirdeb nad ellir ei guddio byth. Fe geisiwyd ei guddio lawer gwaith. Ceisiodd yr Iuddewon ei guddio, ceisiodd y bedd ei guddio, ond i'r golwg yr oedd yn dyfod. Ceisiodd y byd yn ei erledigaethau creulawn, a'i anffyddiaeth, ei guddio; ond po fwyaf y ceisid ei guddio, mwyaf yn y byd yr oedd yn dyfod i'r golwg.

Ac ni fu yr ymadrodd erioed yn fwy gwir nag ydyw heddyw, nad all Efe fod yn guddiedig. Mae ei egwyddorion yn treiddio trwy bob cymdeithas. Mae ei enw yn gwahaniaethu paganiaid a phobl wareiddiedig. Mae hyd yn nod y papyrau newyddion, er yn anwybodol, hwyrach, yn croniclo bob dydd yr adeg y daeth i'r byd. Mae dechreuad pob llythyr, a phob bil sydd yn cael ei settlo, yn ei gydnabod. Yn ei enw Ef y bedyddir pob un, ac yn ei enw Ef y gobeithir wrth farw. Ni all Efe fod yn gudd- iedig.