Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/165

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

II

HUNAN-DWYLL

"Na thwylled neb ei hunan."—1 CORINTHIAID iii. 18.

HEN gynghor wedi ei roi er ys llawer dydd bellach, ond y sydd yr un mor gymhwysiadwy heddyw a phan y rhoddwyd ef gyntaf, gan fod pawb o honom mor ddarostyngedig i dwyllo ei hunan. Nid oes odid i neb yn rhy ieuanc ac anmhrofiadol i allu tystio fod llawer o dwyll yn bod yn y byd; ac y mae yn hawddach dyweyd beth ydyw twyll na dyweyd lle y mae: mae yn haws rhoi desgrifiad o dwyll na rhoi ein bys ar ei drigfod a dyweyd lle y mae yn byw. Gau ymddangosiad, neu, y peth hwnw sydd yn ymddangos yr hyn nid ydyw—dyna ydyw twyll; y peth hwnw ag sydd yn gwisgo gwedd gwirionedd—yn debyg i wirionedd, ac heb fod yn wirionedd. Nid ydyw y natur ddynol, hyd yn nod yn ei hystad lygredig, yn hoff o dwyll