Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/166

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ynddo ei hun. Yn wir, y mae yna ryw wrthdarawiad yn mhawb'i dwyll. Os daw y masnachwr i ddeall fod y cwsmer yn ei dwyllo, mae yn rhaid iddo, yn unol â deddf ei natur, anghymeradwyo ei ymddygiad; ac os daw y cwsmer i ddeal fod y masnachwr yn ei dwyllo ef, mae yn rhaid iddo yntau, o dan yr un ddeddf, gondemnio ei ymddygiad. Ac o herwydd hyny y mae twyll bob amser, cyn gwneyd ei ymddangosiad ymhlith dynion, yn gorfod gwisgo gwedd gwirionedd. Yn wir, hyn sydd yn ei wneyd yn dwyll—ei debygolrwydd i'r gwirionedd. Pe deuai efe ymlaen yn ei liw a'i lun ei hunan, ni chai dderbyniad, ni chai fyw. Ac y mae yn compliment lled dda i'r gwir fod twyll yn gorfod lladrata ei ddillad cyn y caiff dderbyniad gan ddynion. A hyn sydd yn ei wneyd yn elyn mor beryglus: fod yn hawdd ei gamgymeryd am gyfaill. Er mai llais Jacob fydd yn disgyn ar y glust, y dwylaw ydynt ddwylaw Esau. Mae yn dyfod i'n cyfarfod â gwên ar ei enau i'n cusanu, ond y mae llu y tu cefn ganddo i'n cymeryd yn garcharorion. Ac fel Judas, y mae yn dyfod, yn gyffredin yn y nos gyda lanternau; nid ydyw yn hoff o'r haul, nid yw yn hoff o'r dydd. Po fwyaf o oleuni fydd o'n