cwmpas, diogelaf yn y byd y byddwn rhag y gelyn twyll.
Y mae i dwyll amryw ffurfiau. Mae dyn yn twyllo eraill, yn cael ei dwyllo gan eraill, ac yn twyllo ei hun. Mae y dyn sydd yn twyllo eraill yn wrthddrych i'w gondemnio; mae y. dyn sydd yn cael ei dwyllo gan eraill yn wrthddrych i gydymdeimlo âg ef; ac y mae'r dyn sydd yn twyllo ei hun yn wrthddrych i'w gondemnio, ac i gydymdeimlo âg ef. Mae y dyn sydd yn twyllo ei hunan yn wrthddrych i'w gondemnio, am nad ydyw yn defnyddio y moddion sydd o fewn ei gyrhaedd i gael allan ei dwyll; ac y mae y ffaith ei fod yn gallu byw yn dawel mewn hunan-dwyll yn ei wneyd yn wrthddrych i dosturio wrtho ac i gydymdeimlo ag ef.
O bob twyll, hunan-dwyll ydyw y rhyfeddaf, a mwyaf anhawdd rhoddi cyfrif am dano. Pan y mae dyn yn twyllo arall, y mae o angenrheidrwydd yn tybied y bydd hyny o ryw fantais iddo; ond pan y bydd dyn yn ei dwyllo ei hun, mae fel pe byddai wedi ymranu yn ddau, a throi yn elyn iddo ef ei hunan. Ac eto y mae pawb yn teimlo cariad tuag ato ef ei hunan. "Ni chasäodd neb erioed ei gnawd ei hun;" ac yn