Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/168

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

briodol y gellir dyweyd na chasäsaodd neb erioed ei enaid ei hun. Ond er fod gan ddyn le i gredu ei fod yn twyllo ei hun, mae yn ymattal rhag chwilio ei hunan a chael allan y gwir. Ond hwyrach mai yr hyn y buasem ni yn ei dybied, ar yr olwg gyntaf, a fuasai y rheswm cryfaf gan ddyn dros chwilio ei hun, a chael allan ei wir sefyllfa-sef y cariad sydd ganddo ato ei hun—wedi ail ystyried, mai hwn ydyw y rheswm ei fod heb wneyd. Y fath ydyw cariad dyn ato ef ei hun fel, er fod ganddo seiliau cryfion dros feddwl ei fod yn twyllo ei hun, ei fod yn ymattal rhag chwilio ei hun a phrofi ei hun, rhag ofn fod yr hyn y mae yn ei ofni yn wir, ac iddo syrthio yn ei olwg ei hun. Yr un modd ag y bydd ambell i fasnachwr yn gwneyd: mae rhywbeth yn dywedyd wrtho bob dydd nad ydyw ei fasnach cystal ag y bu: ei fod yn myned yn ol yn y byd; ei fod yn myned yn dlotach. Mae y masnachwr yn dychrynu wrth feddwl am hyny; ond y mae yn ymattal rhag cymeryd stock," a gwneyd ei lyfrau i fyny, rhag ofn fod yr hyn y mae efe yn ei ofni yn wir, neu ynte yn waeth nag y mae erioed wedi ei feddwl. Felly y bydd dyn yn gwneyd yn fynych gyda'i gyflwr ger bron Duw. Mae