Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/169

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhywbeth yn sibrwd wrtho bob dydd nad ydyw ystad ei galon fel y dylai fod—fod yna rywbeth allan o'i le, ac yn debyg o droi yn chwerw iddo ryw ddiwrnod. Mae hyn yn ei ddychrynu ar brydiau; ond fel y dyn gyda'i fasnach, y mae yn gwrthod myned at y maen prawf, ac yn taflu y peth ymaith, gan obeithio y goreu. Mae ambell un, mae yn wir, yn wrthgyferbyniol i hyn, bob amser yn troi gwyneb lantern dywyll. ammheuaeth i'w fynwes ei hun,i chwilio am deimladau crefyddol ac arwyddion o dduwioldeb, ac o' angenrheidrwydd yn methu eu cael, am y rheswm fod pob teimlad, pa un bynnag ai crefyddol ai anghrefyddol, yn diflanu pan eir i chwilio am dano. Mae yn apmhosibl cael gafael ar deimlad o fath yn y byd ar wahan oddiwrth y gwrthddrych fydd yn ei gynnyrchu. Os mynwn feddianu teimladau crefyddol, mae yn rhaid i ni fod â'n meddwl wedi ei sefydlu ar Wrthddrych mawr ffydd ac addoliad, ac nid arnom ein hunain. Ar yr un pryd, mae yn ddyledswydd arbenig arnom brofi ein hunain yn ddyfal a beunydd wrth y gwirionedd, rhag bod neb o honom yn debyg o fod yn ol ; oblegid y mae y galon yn fwy ei thwyll na dim-yn. ddrwg ddiobaith; ac hwyrach na raid i ni ond