Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/172

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

berffaith dawel wedi myned trwy y ffurf, pan y mae ei galon yn hollol ddyeithr i ysbryd y pethau. Mae llawer un nad allai gysgu yn dawel gan argyhoeddiadau cydwybod pe yr esgeulusai y moddion ar y Sabbath, a myned i rodiana hyd y wlad; ond pe yr elai yr un un i'r bregeth bore Sabbath, a chysgu y rhan fwyaf o'r amser, a phed elai i'r ysgol y prydnawn ac heb sylweddoli dim ar y wers, ac i'r oedfa y nos d'i feddyliau ar bethau hollol ddyeithr i'r efengyl, efe a allai gysgu yn dawel y noson hono, fel dyn wedi gwneyd ei ddyledswydd.

Rhag twyllo ein hunain, hefyd, dylem fod yn ofalus rhag rhoddi gormod o bwys ar opiniynau rhai eraill am danom. Llywodraethir ni gan opiniynau rhai eraill am danom yn fwy nag y darfu i ni erioed feddwl. Mae dyn yn hoff o wybod beth y mae eraill yn ei feddwl o hono. Gwir y clywir rhai yn dyweyd, nad ydynt yn gofalu beth a ddywedo eraill am danynt, nac yn ei feddwl o honynt. Ond rhaid fod y rhai sydd yn dyweyd felly yn rhagrithio, neu ynte yn amddifad o gymeriad gwerth ei ddal i fyny. Mae yn naturiol i ddyn fod yn awyddus i wybod pa ystâd y mae yn ddal yn meddyliau rhai eraill. Tybed nad oedd yr awydd hwn yn