Y drych goreu i ddyn adnabod ei hun ydyw Gair Duw. Yma y gwel bortrëad cywir a chyflawn o hono ei hun, ond iddo ddal ei hunan yn onest yn ei wyneb. Ië, yn onest, meddwn, canys onid ydym yn dueddol i osgoi rhyw ranau o'r Bibl? Onid ydym yn dueddol i droi y dalenau nes dyfod o hyd i'r rhanau cysurus, esmwyth i'w darllen, a chilio oddiwrth y rhanau hyny sydd yn curo yn lled drwm ar yr hyn yr ydym ni yn hoff o hono? Mae lle i ofni mai un rheswm mawr paham y mae llawer o honom yn meddu càn leied o adnabyddiaeth o honom ein hunain ac o Dduw ydyw, nad ydym yn gwneyd chware teg a'r Bibl. Mae darlun perffaith o bob un o honom yn yr Ysgrythyr: ond nid ar unwaith y deuwn i'w adnabod; mae hyn i'w gyrhaedd trwy lafur, fel pobpeth arall. Milton, os ydym yn cofio yn dda, sydd yn disgrifio Efa yn dyfod at lan yr afon, gyda min yr hwyr, am y tro cyntaf yn ei bywyd. Pan ddaeth i ymyl yr afon hi a welodd ei chysgod yn y dwfr. Edrychodd arno mewn syndod; ac edrychai y cysgod mewn syndod. Ciliodd yn ol; ciliodd y cysgod yn ol. Daeth ymlaen drachefn; daeth y cysgod ymlaen. Yr oedd yn methu yn glir a deall beth allasai hwnw fod; ni welsai y fath
Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/173
Gwedd