Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/175

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cymydogion yr un fath a hwy eu hunain. Ar yr olwg gyntaf, mae cryn ddefnydd cysur yn hyn, ac yn amgylchiadau cyffredin bywyd y mae yn ateb dyben da. Os bydd dyn wedi colli ei ffordd ar y mynydd, a'r nos wedi ei ddal, os yn unig y bydd, fe deimla y brofedigaeth yn fawr; ond os bydd amryw eraill gydag ef, nid ydyw yn gofalu cymaint am y canlyniadau, gan y caiff yr un ffawd a'r gweddill. Pe dygwyddai i ddyn wneyd tro lled drwstan mewn cymydogaeth, mae yn gysur i'w feddwl, ac yn help iddo ymgynnal o dan y brofedigaeth, gofio fod yno amryw yn yr un gymydogaeth wedi gwneyd yr un peth. Ond pe efe fuasai yr unig un euog o gyflawni y tro trwstan, buasai y brofedigaeth yn llemach o lawer iddo. Mae'r gynnaliaeth y mae dyn yn ei chael mewn amgylchiadau o'r fath, oddiar yr ystyriaeth fod llawer eraill yn yr un cyflwr ag ef, yn tarddu yn ddiammheu o'r cydymdeimlad dirgeledig sydd rhwng y naill ddyn a'r llall; ac y mae hyn wedi ei roddi i ni gan Ragluniaeth ddoeth er ein cysur tra yn y bywyd presennol. Ond y mae yr hunan-dwyll pechadurus yn defnyddio hyn fel rheswm i ymfoddloni mewn anufudd-dod i'r efengyl. Yn y byd a ddaw, ymhlith yr annuwiolion bydd pob cydymdeimlad