Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/177

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amgylchiadau cyfoethog a chysurus, ond a syrthiasai i'r fath iselder a thlodi, fel nad oedd yn meddu esgidiau i'w rhoi am ei draed. Un bore wrth gychwyn allan o un o'r common lodging- houses yn Llundain, heb foreufwyd na golwg am dano, edrychai ar ei draed noethion, a llifai y dagrau o'i lygaid, wrth gofio yr amser pan oedd yn berchenog carriage and pair, a gweision a morwynion i weini arno. Ond y peth cyntaf & dynodd ei sylw wedi myned i'r heol, ydoedd dyn heb draed; ac fe löewodd ei ysbryd y foment hono. "I beth y cwynaf fi?" meddai; "dyna grëadur truan mewn gwaeth cyflwr na minnau. Mae fy nhraed genyf eto; yr wyf can iached heddyw ag y bum erioed; a pha beth bynag a gollais, mae y dyn yna wedi colli mwy." Anghofiodd ei drueni ei hun wrth edrych ar drueni mwy un arall. Yr un modd y bydd llawer un yn gwneyd gyda'i gyflwr. Mae rhyw fflachiadau o oleuni ysbrydol yn rhedeg trwy galon pob dyn ar adegau; ond yn lle eu croesawu, mae llawer un, er mwyn tawelu ei gydwybod, yn cymharu ei hunan ag eraill a ystyrir mewn gwaeth cyflwr, ac yn dechre cyfrif ei chances gyda'r Goruchaf, heb gofio fod y goreu o honom yn rhwym i ddamnedigaeth, os na chyfarfyddwn