byth yn dyfod i weithrediad. Maent yn byw fel pe bae ganddynt lease ar eu bywyd. Edrychant ar amser fel pe byddai i gyd o'u blaenau, pan, fe allai, fod y rhan fwyaf o hono y tu ol i'w cefn. Maent yn gweled ac yn teimlo fod pobpeth yn cyfnewid ac yn myned beibio, ond eu heinioes a'u cyfleusderau hwy eu hunain. Nid annhebyg ydyw i'r plentyn pan yn myned gyda'r train am y tro cyntaf. Mae y plentyn ar lin ei fam yn y train yn meddwl mai y gwartheg a'r tai a'r gwrychod sydd yn symud, ac mai efe ei hun sydd yn llonydd, nes y daw i station ddyeithr, lle y mae yn gweled ei gyfeiliornad. Mae rhyw hudoliaeth gyffelyb ar feddwl dyn. Mae yn gweled amgylchiadau yn newid cymydogaethau yn newid; mae yn gweled ei gyfoedion yn marw; ond nid ydyw byth yn sylweddoli y meddwl ei fod ef hunan yn prysur gyflymu tua therfyn ei einioes. Yn ofer yr ymresymir âg ef am ffolineb o oedi ymofyn am grefydd a heddwch â Duw, o herwydd ansicrwydd awr marwolaeth; oblegid dyna ei reswm ef dros oedi. Gan nad wyr pa bryd y bydd yn rhaid iddo farw, mae yn gwenieithio iddo ei bun y gall fyw yn hen. Mae yn troi rheswm Duw dros iddo beidio oedi yn rheswm dros oedi. Mae
Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/179
Gwedd