Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/187

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dyma yr 'Had' sydd i ysigo pen y sarph wedi ei gael!" Ond, fel yr awgrymwyd o'r blaen, hi a siaradodd yn rhy fuan. Cyn i Cain ddysgu cerdded, hi a welodd olion dylanwad yr hen sarph arno ef. A phan anwyd yr ail fab, rhoes ein rhieni cyntaf enw arno ag oedd yn mynegu y fath ddirfawr siomedigaeth oeddynt wedi ei gael yn eu mab cyntaf. Galwasant ei enw ef Abel—gwagedd i Gallasent, gyda mwy o briodoldeb, alw Abel yn Cain, a Chain yn Abel; ond fel y sylwodd rhywun, darfu i'r Ail Adda wella ychydig ar y camgymeriad yma o'r eiddynt; rhoddodd Iesu Grist ddarn newydd at enw Abel, ac fe'i galwodd yn "Abel gyfiawn."

Yr oedd yr egwyddorion drwg yma yr oedd y diafol wedi eu rhoi yn natur Cain—yr hon oedd yn llygredig eisoes, yn cynnyddu fel yr oedd yntau yn cynnyddu; ac aethant yn gryfach fel yr oedd yntau yn myned yn gryfach, nes iddynt, o'r diwedd, ffurfio gwrthdarawiad rhyngddo a'i frawd Abel. Prin y buasem yn dysgwyl i ddosbarthiad gwaith gymeryd lle mor gynnar yn hanes dynoliaeth, yn enwedig rhwng dau frawd—prin y buasem yn dysgwyl i un brawd ymroddi yn hollol i un gwaith, a'r llall ymroddi yn hollol i waith arall, ond ar yr ystyriaeth nad