yn 'mhellach nag y bwriadwn hefyd." "Ie,"' meddwn innau, "satan yn condemnio pechod oedd yna yn siŵr." Eto, yr oedd Mr. Owen yn teimlo ei fod wedi dweud gormod, a theimlai hefyd fod yna wir yn yr hyn a ddywedai y cyfaill, ond na ddylasid ei ddweud ganddo ef.
Yr oedd rhodres yn ei gynhyrfu yn wastad, a phob ymdrech ar fod yn rhywbeth ar gost rhy w un arall. Nid oedd neb a edmygai haelioni yn fwy nag ef, ond casâi yr hwn a fynnai fod yn haelionus ar gost eraill â chas perffaith. Yr oedd y gau, beth bynnag a fyddai, yn rhwym o'i gynhyrfu. Un tro, daeth yno i'r un ystafell ag y soniais am dani o'r blaen, hen frawd a berchid yn fawr gennym ein dau, ond hen frawd a oedd yn berchen nifer o wendidau, y rhai nis gallai Mr. Owen lai na bod yn llawdrwm arnynt pan ga'i y cyfleustra. Rywbryd yn yr ymddiddan dyma'r hen frawd yn estyn ei droed ymlaen, gan ddweud,—"Does ddim yn well gen i na hen esgid; 'does dim welwch chi'n gwisgo yn esmwythach." Yr oedd amryw o glytiau ar yr esgid, a theimlai Daniel mai awydd i ni weld y clytiau, a chael ei ganmol am ei gynildeb, a barai iddo estyn ei droed a sôn am yr esgidiau; ac meddai, "Ie, mae bod yn ofalus am hen bethau