Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

—dillad ac esgidiau—yn beth i'w ganmol yn fawr. Wyddoch ch'i beth, pan af i'n gyfoethog, mi fynnaf innau glytio fy esgidiau." Teimlodd yr hen frawd yr ergyd, ac ebe, "onid yw yn ddiwrnod braf iawn," a heb aros am ateb, ymaith âg ef

Yr ydoedd Mr. Owen wedi ennill enw da iddo ei hun ym marn y cyhoedd, cyn iddo fynd i gadw siop o'i eiddo ei hun, a chyn iddo ysgrifennu llinell o'i nofelau. Yr oedd ei ofal am ei fam ac am ei chwaer hefyd wedi ei anwylo yn meddwl pawb. Daeth adref o'r Bala yn gynt o lawer nag y dylasai, ac yn gynt o lawer nag y bwriadasai unwaith, yn unig am ei fod yn bryderus ynghylch ei fam. Llawer a feddyliodd am dani hi, ac yn helaeth y talodd hithau yn ôl iddo Yr ydoedd yn hynod dyner hefyd o'i chwaer.

Braidd nad wyf yn tybied mai ei afiechyd a achlysurodd ehangiad ei gyhoeddusrwydd. Bu yn sâl iawn, agos iawn hyd farw; yr oeddem oll wedi anobeithio y byddai fyw, a bu llawer o weddïo trosto, ac yr wyf yn cofio, yn arbennig am un bore Saboth, pan oedd yn hofran rhwng byw a marw, fod yna ryw weddi hynod yn cael ei hoffrymu gan weinidog oedd yn byw yng Ngwrecsam y pryd hwnnw, ac o'r dydd hwnnw allan trodd