Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Daniel i wella, a gwella yn raddol a wnaeth hyd nes yr adferwyd ei iechyd; ac yr wyf i wedi bod yn meddwl, byth er hynny, fod ei adferiad yn atebiad uniongyrchol i'r weddi hono, oblegid er mai un oedd yn ei hoffrymu, eto yr oedd yr holl gynulleidfa yn uno yn y gwasanaeth, ac fe'n dysgir mai " llawer a ddichon taer weddi y cyfiawn." Ond, wedi gwella, nid oedd modd i'w gael i'r pulpud, ofnai siarad yn gyhoeddus, hyd yn oed yn ei gartref, a chiliai i'r cefn, y tu ôl i bawb, lle yr arhosodd hyd y diwedd, er pob cymell fu arno. Yr oedd ei afiechyd wedi ei analluogi—neu o'r hyn lleiaf, yr oedd efe yn credu ei fod—i wneuthur dim mwy yn y cyhoedd; aeth yn ddiegni ac yn ddiysbryd, fel yr oedd rhai ohonom yn ofni mai gorwedd i lawr a marw a wnâi dan ein dwylaw. Dyna'r pryd y aeth y diweddar Barch. Roger Edwards ato i'w ysgwyd, ac i geisio ganddo ysgrifennu ychydig i'r Drysorfa. Wedi hir gymell cydsyniodd, a pharatôdd nifer o'i bregethau, y rhai a ddaethant allan dan y teitl o Offrymau Neillduaeth. Wedi dechrau cafodd flas ar y gwaith, ac wedi gorffen y pregethau ysgrifennodd y Dreflan, a hynny hefyd ar gymhelliad Mr. Edwards. Bu yn dweud wrthyf fy hun ei fod dan rwymedigaeth