neillduol i Mr. Edwards am ei gymhellion yn gystal ag am ei awgrymiadau. Am a wn i, nad ydy w yr hyn a grybwyllwyd am guddiad ei gryfder yn ddangosiad pur deg ohono, ac yn index cywir o'i garitor. Yr oedd y gallu i ddisgrifio yn amlycach ynddo na'r gallu i ddadansoddi ac i farnu. Yr oedd ei natur unplyg a dioced yn ei arwain yn fynych i gasgliadau, os casgliadau hefyd, a phenderfyniadau na chyfiawnhaid mohonynt gan ddim o'r tu allan i'w fynwes ei hun. Aml iawn y byddai ei deimladau yn rhedeg gan ei gymryd gyda hwynt, tra y byddai ei farn yn gofyn- " Pa le yr wyt ti." Mewn gwirionedd, creature of impulse perffaith ydoedd, ac o herwydd hynny yr oedd ei nerth a'i wendid yn gorwedd yn yr un lle. Hefyd, ac am yr un rheswm, yr ydoedd ei argraffiadau cyntaf , fel rheol, yn debycach o fod yn gywir na'i ail, am y byddai y rhai hynny yn cael dylanwadu arnynt yn eu ffurfiad gan dueddiadau ei feddwl gymaint â chan ffeithiau; yn wir, dyna fyddai yn andwyo ei farn, cymryd tueddiadau yn lle ffeithiau, a gweithredu ar y rhai hynny.
Yng nghanol ei feirniadaeth, a'i ddiffyg barn yr ydoedd yn gymeriad noble iawn, llawn o