Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

natur dda ac o gydymdeimlad, gwelai rinweddau yn arall, ogystal â'i golliadau, ac nid oedd dim yn fwy gwrthun ganddo nac un a lawenhâi yng ngwendid eraill, a chaeai â châs perffaith yr un a geisiai ddyrchafu ei hun ar draul tynnu i lawr eraill, ac yr ydym oll wedi gweled rhai felly. Dylwn ddweud, hefyd, fod y disgrifiadau a roddid ganddo yn ei nofelau wedi costio llawer iddo; nid ysgrifennai ond yn afrwydd, ac y mae rhai o'i bethau gorau wedi eu hysgrifennu ganddo lawer o weithiau trosodd[1] a hynny bob tro yn araf iawn, wedi ystyried pob brawddeg drosodd a throsodd drachefn- ond wedi eu hysgrifennu maent agos yn berffaith. Rhaid eu bod yn dda, onide ni fuasai yn gallu ysgrifennu fel ag i ddal i fynnu y ddiddordeb yn ei nofelau hyd y diwedd, oblegid ar ragoriaeth y disgrifiadau y maent oll yn dibynnu. Ni fedrai greu plot, ac nid oes yna yr un plot yn yr oll o'i weithiau, ond dywedai yr hanes yn ddigyffelyb, gan ei fod yn teimlo i'r byw bopeth a ddisgrifiai. Yr ydwyf yn cofio mynd i edrych am dano un noswaith pan ymddangosai Rhys Lewis gyntaf; y noswaith honno, "Seth," mab Thomas Bartley, oedd ganddo; ysgrifennai frawddeg, yna gosodai ei ben ar ei fraich,

  1. Nis gellir dweud hyn am ei nofelau diweddaf