Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ac wylai dan ochain dros y lle; ciliais o'r golwg, a deuais yno drachefn, ond cefais Daniel yr un fath, a bu wythnos gyfan cyn gorffen yr hanes rhyfedd hwnnw am Seth a'r capel mawr. Mewn cysylltiad â hyn, dywedais wrtho wedyn fod llawer o golli dagrau wedi bod wrth ddarllen am Seth. "Wel," meddai yntau, "wylodd neb wrth ddarllen gymaint ag y gwnes i wrth ysgrifennu," a chredaf yn sicr bod ei holl greadigaethau wedi eu cysegru, iddo ei hun beth bynnag, trwy ddagrau.

Buasai yn dda gennyf ychwanegu, ond ni chaniatâ gofod, a dibennaf trwy fynegi fy hiraeth am dano a'm hanwyldeb o'i goffadwriaeth—coffadwriaeth sydd eto'n fendigedig yn ei dref enedigol, ac ymysg y bobl a'i hadwaenai orau.