Prawfddarllenwyd y dudalen hon
ELLIS EDWARDS. M.A.
AR
DANIEL OWEN
(O'r Goleuad am Hydref 30ain, 1895.)
CYSEGREDIG heddiw, wedi myned "i ffordd yr holl ddaear!" Pa beth sydd yn aros yn feddyliau y rhai a'i hadwaenant am flynyddoedd meithion fel ei neilltuolrwydd disgleiriaf a holl gynhwysol? Credwn nas gall y rhai a gawsant fwyaf o'i gymdeithas amau am foment. Y mae un peth yn sefyll allan fel pwynt o oleuni. Hynny a'i gwahaniaethai yn bennaf, yn hynny y safai ar ei ben ei hun, hynny ddeuai i'r golwg bron ymhob ymddiddan cyn pen ychydig o eiliadau : taflai ryw oleuni ar y pwnc dan sylw oedd yn draethawd mewn un pelydriad. Dywedai air, ac yr oedd fel fflachiad sydyn yr electric light. Yr oedd y gymhariaeth mor gymwys, y sylw mor unionsyth, mor