Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

anfursenaidd, mor hydreiddiol, mor wreichionog o gywir, fel yr adnabyddech yn y fan, ac y cydnabyddech gyda, hwyrach, ryw deimlad o barlys, ddyfodiad mellten, a phresenoldeb ysbryd breintiedig ac anghyffredin. Teimlech mor rhydd, mor eglur, mor ddiamwisg, mor risialaidd yw y gwirionedd mewn gwirionedd, gymaint o fwg sydd mewn rhai eglurhadau, ac—rhaid i ni arfer y gair eto—mor felltenaidd y gall taith meddwl fod. Dyma, ni a gredwn, oedd prif nodweddion ei allu meddyliol,- eglurder ei syniad, a'r cyflymdra di-oedi gyda pha un y trawai y nod oedd ganddo mewn golwg. Yn gyffredin yr oedd cywirdeb y sylw yn cael ei ad-dystio gan galonnau y rhai a wyddent am y pwnc. Teimlent fod Daniel Owen wedi darllen i waelod calon pawb wrth ei ddweud. Nid oes gan yr ysgrifennydd bron un atgof am fwynhad bywiocach na'r hyn a gai wrth wrando ar Daniel Owen yn disgrifio rhagoriaethau pregethwyr a phregethau, neu yn adrodd y pregethau. Mewn ychydig funudau ar ôl diwedd yr oedfa, tywalltai allan sylwadau oeddynt yn eich gwanu i'r byw fel y pethau yr oeddech yn hollol wedi eu meddwl, ond fil o filltiroedd oddi wrth fedru eu dweud. Yr iasau o fwynhad a gynhyrchai y