Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ei ryw, nad yw ofn yn diffodd ei obeithion na pharch yn ei suo i hunanfoddhad. Un o'r bobl oedd Daniel Owen yn ei haniad, ac un ohonynt a fu, yn ei feddyliau, ac yn ei ymhyfrydiad ar fyd ei oes. Cof gennym iddo gael ei ddewis i ateb dros y gweithwyr mewn cyfarfod gwleidyddol bwysig yn ei dref, pan oedd Syr Robert Cunliffe, a doniau eraill ymhlith y siaradwyr. Gweithiwr oedd Daniel Owen ei hun y pryd hwnnw, ond ei araith ef oedd yr orau o gwbl. Yr oedd mwy o grit ynddi, ys dywed y Sais, nag yn un arall. Efe oedd y pencampwr o ddigon. Dros ei gydweithwyr, ac ar eu rhan y siaradai y noson honno, a chyda'r gweithwyr a'r bobl gyffredin y bu fyw ei fywyd hyd y diwedd. Mor ddieithr yw y meddwl, ac eto mor wir, y galliasai efe, fel eraill, gael mwy nag un ffordd at fywyd llai beichus. Ond ni symudodd fodfedd tuag at ddim o'r fath beth. Ni themtiodd ei lwyddiant ef i geisio cyfeillion mwy cyfoethog. Ni arferai weniaith i geisio ymgodi, ni phellhaodd oddi wrth drueiniaid y ddaear. Yn yr ystafell tu ôl i'r shop, neu y gegin gul gartref, ar ôl holl oriau ei lafur, y gwelai ei gyfeillion ef yn ysgrifennu Rhys Lewis, ac yno y cawsant ef yn hollol yr un un wedi i'w glod daenu